Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Mehefin 2014 i’w hateb ar 1 Gorffennaf 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ(4)1763(FM)W

 

2. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionydd): Sut y mae’r Prif Weinidog yn bwriadu gweithredu ei gyfrifoldebau dros gysylltiadau â gweddill y Deyrnas Unedig yn 2014? OAQ(4)1761(FM)W

 

3. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio yn GIG Cymru? OAQ(4)1766(FM)

 

4. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn galluogi twf economaidd yn Sir Drefaldwyn?OAQ(4)1773(FM)

 

5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drefniadaeth llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)1758(FM)

 

6. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Sêr Cymru? OAQ(4)1770(FM)W

 

7. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganoli pwerau amrywio trethi i Gymru? OAQ(4)1765(FM)

 

8. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella’r seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?OAQ(4)1768(FM)

 

9. Leighton Andrews (Rhondda):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol?OAQ(4)1760(FM)

 

10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r economi yng ngorllewin Cymru?OAQ(4)1756(FM)

 

11. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd polisïau iechyd Llywodraeth Cymru yn effeithio ar Ddwyrain De Cymru?OAQ(4)1771(FM)

 

12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y prentisiaethau gwledig yng Nghymru? OAQ(4)1767(FM)

 

13. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa bolisïau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i wella mynediad at feddygfeydd yn y 12 mis nesaf?OAQ(4)1764(FM)

 

14. Gwyn Price (Islwyn):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu twristiaeth yng nghymoedd de Cymru? OAQ(4)1759(FM)

 

15. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran cynyddu cysylltiadau rheilffordd rhwng Gogledd Cymru a Lerpwl a Manceinion? OAQ(4)1757(FM)W